Cymraeg Casnewydd

Byw Iaith…Iaith Fyw!
Mae prosiect cymunedol newydd Cymraeg Casnewydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd o dan oruwchwyliad Swyddog Datblygu Cymunedol yr Iaith Gymraeg, gyda chymorth gwirfoddolwyr lleol a chefnogaeth ariannol oddi wrth Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Dinas Casnewydd.
Bwriad y cynllun yw cynyddu’r cyfleoedd a’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghasnewydd, gyda’r nod o sicrhau dyfodol hir-dymor i’r iaith yn y ddinas.
Rydym yn gobeitho dod i adnabod pobl Casnewydd sydd am ddefnyddio’r Gymraeg.
Rydym am glywed eich syniadau chi…
- Beth hoffech chi weld yn digwydd yng Nghasnewydd?
Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â digwyddiadau, achlysuron a mudiadau lleol cysylltwch â ni nawr!
*** Cymraeg Casnewydd yw eich cyswllt ar gyfer digwyddiadau, gwasanaethau a chysylltiadau’r Gymraeg yng Nghasnewydd ***
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â…

Swyddog Cymraeg Casnewydd
Llyfrgell Ganolog
Sgwâr John Frost
Casnewydd
De Cymru
NP20 1PA
01633 656656
post@cymraegcasnewydd.com



